Antholeg
| Enghraifft o: | ffurf llenyddiaeth, genre llenyddol, term llenyddol, book form |
|---|---|
| Math | crynhoad, grŵp o weithiau |
| Prif bwnc | llenyddiaeth |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01tz3c |
| Thesawrws y BNCF | 10289 |
| Quora | Anthologies |
Casgliad o ddarnau llenyddol, fel rheol gan sawl awdur gwahanol,[1] yw antholeg.[2] Dewisir cynnwys y casgliad gan y detholydd, y golygydd, neu gyhoeddwr y llyfr. Fel arfer mae'r amryw ddarnau yn gyffredin yn nhermau genre, thema, pwnc, oes, neu nodweddion yr awduron. Gelwir antholeg o farddoniaeth yn flodeugerdd.
Bôn yr enw yw anthologia, cyfuniad o'r geiriau Groeg anthos (blodyn) a logia (casgliad). Trosiad ydy'r "blodau", felly, am geinion llenyddiaeth Hen Roeg, megis penillion ac epigramau'r Palatinē Anthología (10g) a'r Planoudeia Anthología (14g). Yn ystod yr Oesoedd Canol ffurfiwyd yr enw cyfystyr Lladin Diweddar florilegium, ac ar ddelw'r hwnnw bathwyd "blodeugerdd" yn Gymraeg yn yr 17g.[2]
Gall y gair hefyd gyfeirio at gasgliad o weithiau celfyddydol eraill, megis caneuon neu baentiadau.[1][2]