Euroswydd
Euroswydd yw tad Efnysien a Nisien ym Mhedair Cainc y Mabinogi. Cyfeirir ato yn un o Drioedd Ynys Prydain yn ogystal. Ychydig a wyddys fel arall am y traddodiadau amdano.
Ymddengys fod enw Euroswydd yn gyfuniad o'r gair eur yn yr ystyr "ysblennydd, ardderchog, rhagorol" a'r gair oswydd "gelyn", gan roi'r ystyr "Gelyn Ysblennydd" (?).
Chwedl Branwen ferch Llšr yn y Pedair Cainc yw ein prif ffynhonnell am Euroswydd. Yno mae'n un o ddau žr Penarddun (Llšr Llediaith yw'r llall) a thad, trwy Benarddun, i'r gefeilliaid Efnysien a Nisien. Nid oes ganddo le fel cymeriad yn y chwedl.
Yn y Trioedd cyfeirir ato yn carcharu Llšr Llediaith, sy'n un o Dri Goruchel Garcharor Ynys Brydain (gyda Mabon fab Modron ac Arthur). Ni cheir esboniad am y traddodiad, ond rhaid bod chwedl amdano yn hysbys pan gyfansoddwyd y triawd. Gan fod Euroswydd a Llšr yn cael eu cyfrif fel "gwšr" Penarddun efallai fod chwedl am yr elyniaeth rhyngddynt yn bodoli ar un adeg.
Ceisiodd Alfred Nutt uniaethu Euroswydd â'r cadfridog Rhufeinig Ostorius Scapula, gwrthwynebydd Caratacus (Caradog), ond mae cryn ansicrwydd am hynny.
Ceir cyfeiriad posibl ato yn ogystal mewn cerdd gan y bardd Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd (fl. 1326-82).
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Trioedd Ynys Prydein, Rachel Bromwich (Gwasg Prifysgol Cymru, arg. new. 1991)