Hunlun
| Math | hunanbortread ffotograffig, self-shot |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0sgh53y |



Mae hunlun (hefyd hun-lun a selffi; Saesneg: selfie) yn ffotograff hunanbortread, fel arfer yn cael ei dynnu ar ffôn symudol. Yn aml iawn mae hunluniau yn cael eu rhannu ar rwydweithiau cymdeithasol ar-lein fel Instagram, Facebook, a Tumblr. Maent yn anffurfiol ac yn aml yn cael eu tynnu gyda'r camera yn cael ei ddal hyd braich.
Hanes
[golygu | golygu cod]Creodd yr arloeswr ffotograffig Americaniad Robert Cornelius lun daguerreotype ohono'i hun ym 1839 sef un o'r ffotograffau cyntaf o berson. Oherwydd fod y broses mor araf, roedd yn gallu tynnu’r cap oddi ar y lens, rhedeg o flaen y camera am funud neu fwy, cyn dychwelyd i roi'r cap y lens yn ôl. Ysgrifennodd ar gefn y llun The first light picture ever taken. 1839.[1][2]
Ym 1900 dechreuodd gwmni Kodak werthu'r camera bocs ysgafn cyntaf y 'Kodak Brownie', ac fe ddaeth yr arferiad o dynnu hunan bortreadau'n boblogaidd. Fel arfer rhoddwyd y camera o flaen drych.[3]
Mae'r syniad o lwytho lluniau hunanbortread o grwpiau i'r we, gan ddefnyddio camera ffilm dafladwy yn hytrach na chamera digidol neu ffôn symudol, yn dyddio yn ôl i 2001 pan grëwyd gwefan gan grŵp o bobl yn Awstralia.[4][5][6]
Yr enwau selfie a "hunlun"
[golygu | golygu cod]Y defnydd cyntaf hysbys o'r gair selfie oedd mewn fforwm rhyngrwyd yn Awstralia ar 13 Medi 2002.[7]
Erbyn 2013 roedd y gair selfie wedi dod yn ddigon poblogiadd i'w gynnwys yn y fersiwn ddigidol o'r Oxford English Dictionary.[8]
Roedd y gair Cymraeg "hunlun" (neu "hun-lun") wedi ymddangos erbyn 2013.[9][10][11]
Troedlun
[golygu | golygu cod]Yn 2015 dechreuwyd gwerthu esgidiau pwrpasol gyda lle arbennig ar gyfer y ffôn. [12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Robert Cornelius' self-portrait: The First Ever "Selfie" (1839)". The Public Domain Review. Open Knowledge Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Chwefror 2014. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2013.
- ↑ "Robert Cornelius, self-portrait; believed to be the earliest extant American portrait photo". Prints & Photographs Online Catalog. Library of Congress. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2013.
- ↑ "Beginners Guide To Understanding And Using A Brownie Box Camera".
- ↑ "bogon.8m.com SelfPix". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-04-13. Cyrchwyd 2014-06-27.
- ↑ "bogon.8m.com Out & About". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2001-10-11. Cyrchwyd 2014-06-27.
- ↑ "bogon.8m.com Bogons". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2001-09-28. Cyrchwyd 2014-06-27.
- ↑ "Oxford Dictionaries Word of the Year 2013 is..." OxfordWords blog. Oxford Dictionaries. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-01. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2013.
- ↑ Coulthard, Charissa (7 Mehefin 2013). "Self-portraits and social media: The rise of the 'selfie'". BBC News. Cyrchwyd 6 Ebrill 2013.
- ↑ hunlun. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Mehefin 2026.
- ↑ https://twitter.com/siantirdu/status/372122809872293888
- ↑ "Etholiad Ewrop: 'Na' i dynnu hun-lun wrth bleidleisio". Golwg360. Cylchgrawn Golwg. 22 Mai 2014. Cyrchwyd 27 Mehefin 2014.
- ↑ "Hundreds of people have been asking where they can buy the Selfie Shoes..." Selfie Shoes. Cheryl Matson. 30 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 1 Ebrill 2015.