Neidio i'r cynnwys

Huw Antur

Oddi ar Wicipedia
Huw Antur
Ganwyd1963 Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 2026 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ac un o hoelion wyth ardal Penllyn ac ymhellach oedd Huw Antur (enw llawn, Huw Antur Edwards, 1963 – 26 Medi 2026).[1][2] Bu farw'n annisgwyl o sydyn yn 63 oed.[3]

Roedd Huw Antur yn byw yn Llanuwchllyn ac yn gyfarwyddwr Gwersyll Glan-llyn rhwng 2007 a 2023. Cyn hynny, roedd yn gweithio i Gyngor Gwynedd fel Swyddog Adfywio Bro Meirionnydd Wledig. Bu hefyd yn gweithio i Gymdeithas Meirion ac i Amaethwyr Clunderwen a Cheredigion Cyf.[3]

Cyfraniad cymunedol

[golygu | golygu cod]

Roedd Huw Antur yn hael iawn yn defnyddio ei allu trefnyddol ar gyfer mentrau gwirfoddol a chymunedol. Roedd yn glerc cyngor tref Y Bala, yn weithredol gyda'r capel a thafarn gymunedol Yr Eagles. Bu'n gweithio i elusen yn rhoi cartrefi i bobl yn Llanuwchllyn ac yn ysgrifennydd cwbl wirfoddol Awen Meirion sef y siop lyfrau yn Y Bala.[3]

Personol

[golygu | golygu cod]

Roedd Huw Antur yn Ɣr i Bethan ac yn dad i'r prifardd Gruffudd Antur a Marged Gwenllian sy'n aelod o grƔp pop, Y Cledrau ac yn frawd i Anwen.

Adnabwyd ef ar lafar gan nifer fel "Huw A" a bu'n aelod o nifer o gorau a phartĂŻon gan gynnwys Tri Gog a Hwntw.[4]

Dywedodd cyn-aelod Seneddol yr ardal, Elfyn Llwyd fod "y pentre' a'r ardal gyfan mewn galar a sioc". "Mae'r bwlch ar ei ĂŽl o yn anhygoel," meddai. "Person annwyl iawn - hiwmor sych neis gynno fo. Yn gymydog da ac yn gyfaill i'r pentre' a'r ardal i gyd ... Fedrai'm canmol ei glodydd o ddigon. Un o fawrion yr ardal."

Cafwyd munud o dawelwch er cof amdano cyn gĂȘm bĂȘl-droed tĂźm Llanuwchllyn yn erbyn Caersws.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Huw Antur Edwards". Gwefan TĆ·'r CwmnĂŻau. Cyrchwyd 30 Medi 2026.
  2. ↑ "Huw Antur". Gwefan Funeral Notices. Cyrchwyd 7 Hydref 2026.
  3. 1 2 3 "Cyn-gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn Huw Antur wedi marw yn 63 oed". Gwefan Newyddion S4C. 26 Medi 2026.
  4. 1 2 "Teyrngedau i Huw Antur - 'un o fawrion ardal' Llanuwchllyn". BBC Cymru Fyw. 26 Medi 2026.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]