Marlon Brando
| Marlon Brando | |
|---|---|
| Ganwyd | Marlon Brando Junior 3 Ebrill 1924 Omaha |
| Bu farw | 1 Gorffennaf 2004 o methiant anadlu Los Angeles |
| Man preswyl | Libertyville, Evanston |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, cyfarwyddwr, actor, ymgyrchydd, rheolwr theatr, ysgrifennwr |
| Adnabyddus am | The Godfather, Apocalypse Now, A Streetcar Named Desire, On the Waterfront, One-Eyed Jacks, Le Dernier Tango À Paris, Burn! |
| Arddull | y Gorllewin gwyllt, ffilm epig, ffilm drosedd, ffilm ddrama, ffilm-ddrama am drosedd, ffilm gyffro, ffilm gyffrous am drosedd, ffilm ryfel, ffilm gangsters, melodrama, ffilm ramantus, ffilm grog, ffilm am ddirgelwch, ffilm llawn cyffro, ffilm gomedi, ffilm antur, ffilm ddrama hanesyddol, ffilm hanesyddol, drama gwisgoedd, Ffilm gyffro seicolegol, ffilm ddrama seicolegol |
| Taldra | 175 centimetr |
| Tad | Marlon Brando, Sr. |
| Mam | Dodie Brando |
| Priod | Anna Kashfi, Movita Castaneda, Tarita Teriipaia |
| Partner | Irene Papas |
| Plant | Stephen Blackehart, Cheyenne Brando, Christian Brando, Simon Teihotu Brando, Rebecca Brando, Miko Castaneda Brando |
| Gwobr/au | Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actor in a Miniseries or a Movie, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau Donaldson, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd |
| Gwefan | https://marlonbrando.com |
| llofnod | |
Roedd Marlon Brando, Jr. (3 Ebrill 1924 – 1 Gorffennaf 2004) yn actor o'r Unol Daleithiau, enillydd Oscar, a ystyrir yn un o'r actorion ffilm mwyaf yr 20g.[1]
Daeth â thechnegau actio method (neu'r System Stanislavski cyffelyb) a ddysgodd yn Actors Studio, Efrog Newydd, i amlygrwydd yn y ffilmiau A Streetcar Named Desire ac On the Waterfront, a gyfarwyddwyd ill dau gan Elia Kazan yn y 1950au cynnar. Cafodd ei ddull actio, ynghyd â'i bersona cyhoeddus fel dyn ar yr ymylon heb ddiddordeb yn Hollywood "swyddogol" y cyfnod, effaith bellgyrhaeddol ar y genhedlaeth o actorion newydd a ddaeth i'r amlwg ar ddiwedd y pumdegau ac yn ystod y 1960au cynnar.
Cymerai Marlon Brando ran amlwg mewn gweithgareddau gwleidyddol yn ogystal, e.e. y Mudiad Hawliau Dinesig yn America a'r American Indian Movement.
Fe'i enwyd y pedwerydd Seren Gwrywaidd Mwyaf Erioed gan Gymdeithas Ffilm America (The American Film Institute).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ David Thomson (3 Gorffennaf 2004). "Marlon Brando". Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2026.