Selyf Roberts
| Selyf Roberts | |
|---|---|
Enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1955 | |
| Ganwyd | Morris Selyf Roberts 29 Mai 1912 Corwen |
| Bu farw | 26 Mawrth 1995 Croesoswallt |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | nofelydd, cyfieithydd, ysgrifennwr, rheolwr banc |
Llenor a bardd o Groesoswallt oedd Selyf Roberts neu Morris Selyf Roberts (29 Mai 1912 – 26 Mawrth 1995).[1] Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1955 am "unarddeg o ysgrifau ar bynciau".[2] Roedd yn gyfranydd cyson i Radio'r BBC yn y 1960au.[3] Cyhoeddodd nifer o nofelau gan gynnwys Cysgod yr Arian, Helynt ar Hoelion, A Eilw ar Ddyfnder ac Wythnos o Hydref.[3] Derbyniodd wobr o £1,000 ym 1990 gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei nofel Gorwel Agos.[4] Cyhoeddodd un nofel dan enw "Eirwen Mathews".[5]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd ef yng Nghorwen yn fab i'r Parchedig E. Berwyn Roberts, gweinidog gyda'r Wesleaid.[3][6]
Gwasanaethodd yn Y Fyddin yn ystod yr Ail-Ryfel Byd gyda Chatrawd Frenhinol Cyntaf y Brenin[7] a bu'n barddoni pan yn filwr.[8] Bu ar goll yn y Dwyrain Canol ym mis Mehefin 1942, ac fe'i cymerwyd yn garcharor rhyfel yn ystod Brwydr y Mersa Matruh yn Yr Aifft. Bu'n garcharor yn yr Eidal a'r Almaen hefyd am dair mlynedd, ac adroddwyd ei hanes yn y papurau newydd.[6] [3] Nodwyd ei fod yn fab i'r Parchedig E. Berwyn Roberts, Ffordd Llanerch, Bae Colwyn[6] ac yn frawd i Alun Caradog Roberts, Banc y Midland.[7]
Yn y 1970au, ef oedd Pennaeth Gŵyl Gelfyddydau Croesoswallt.[9] Roedd hefyd yn aelod o Orsedd y Beirdd Powys.
Bu'n gweithio fel Rheolwr Banc, cyn ymddeol.[10]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]Nofelau
[golygu | golygu cod]- Cysgod yw Arian (Gwasg Gee, 1959)
- Helynt ar Hoelion (Gwasg Gee, 1960)
- A Eilw ar Ddyfnder (Gwasg Gee, 1962)
- Wythnos o Hydref (Gwasg Gee, 1965)
- Ymweld ag Anwiredd (Gwasg Gomer, 1975)
- Iach o'r Cadwynau (Gwasg Gomer, 1978)
- Tebyg nid Oes (Gwasg Gomer, 1981)
- Teulu Meima Lloyd (Gwasg Gee, 1986)
- Gorwel Agos (Gwasg Gee, 1989)
- Cyfrinach Mai (Gwasg Gee, 1993)
Ysgrifau
[golygu | golygu cod]- Deg o'r Diwedd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1958; Enillydd y Fedal Ryddiaith)
- Mesur byr: ysgrifau Selyf Roberts (Gwasg Gomer, 1977)
- Hel Meddyliau: Ysgrifau a Cherddi (Gwasg Gee, 1982)
Cyfieithiadau
[golygu | golygu cod]- Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud (Gwasg Gomer, 1953; fersiwn diwygiedig 1982)
- Trwy'r Drych: a'r hyn a welodd Alys yno (Gwasg Gomer, 1984)
Arall
[golygu | golygu cod]- Llawlyfr i Awduron (Cyngor Llyfrau Cymraeg, 1979)
- Tocyn Dwyffordd (Gwasg Gee, 1984; Gwaith Hunangofiannol)
- Myfyrdod ar rai o'r Damhegion (Gwasg Gee, 1995; ysgrifau crefyddol)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Erthyglau sydd angen eu hychwanegu i'r Bywgraffiadur". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Y Fedal Aur". Y Cloriannydd. 10 Awst 1955.
- 1 2 3 4 "Newyddion - Siarad yn bersonol". Y Clorianydd. 4 Hydref 1966.
- ↑ "Book Token". Liverpool Daily Post. 25 Mai 1990.
- ↑ "Ffugenw - WICI". wici.porth.ac.uk. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2026.
- 1 2 3 "War Casualties". Liverpool Evening Express. 7 Awst 1942.
- 1 2 "Newyddion Abergele^". North Wales Weekly News. 6 Awst 1942.
- ↑ "Soldier Poet". Liverpool Daily Post. 13 Gorffennaf 1942.
- ↑ "Author's Talk". Shropshire Star. 2 Chwefror 1972.
- ↑ Roberts, Iorwerth (23 Awst 1984). "Return Ticket". Daily Post.