Shinzō Abe
| Shinzō Abe | |
|---|---|
| Llais | Shinzo Abe voice 20200828.ogg |
| Ganwyd | 21 Medi 1954 Shinjuku |
| Bu farw | 8 Gorffennaf 2022 o anaf balistig, gwaediad Ysbyty Prifysgol Feddygol Nara |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Prif Weinidog Japan, Prif Ysgrifennydd y Cabinet, Prif Weinidog Japan, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, Prif Weinidog Japan, Prif Weinidog Japan, President of the Liberal Democratic Party, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, President of the Liberal Democratic Party |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Solidarity Against the North Korean Threat, Towards a Beautiful Nation |
| Taldra | 175 centimetr |
| Plaid Wleidyddol | Y Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd |
| Tad | Shintarō Abe |
| Mam | Yōko Abe |
| Priod | Akie Abe |
| Perthnasau | Kan Abe, Nobusuke Kishi, Ichirō Satō, Eisaku Satō, Nobuhiro Satō, Ōshima Yoshimasa, Abe Shintarō, Nobukazu Kishi, Shinji Satō, Masao Nishimura |
| Llinach | Satō–Kishi–Abe family |
| Gwobr/au | Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Croes Fawr Urdd Anrhydedd, Grand Cross of the Ivorian Order of Merit, Uwch Groes Urdd y Orange-Nassau, Knight Grand Officer of the Order of Merit, urdd Al-Khalifa, Best Dressed Award Political and Economic Category, Best Dressed Award Political and Economic Category, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, doethuriaeth er anrhydedd, honorary doctor of the Jawaharlal Nehru University, Medal of the Oriental Republic of Uruguay, Urdd Sikatuna, Asian of the Year, Herman Kahn Award, honorary doctor of the Turkmen State University, Prif Gadlywydd Lleng Teilyngdod, Padma Vibhushan in Public Affairs, Urdd Aur yr Olympiad, Order of Bahrain, doethuriaeth er anrhydedd, Junior First Rank, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Uwch Groes Urdd y Goron Dderw, Urdd Gwladwriaeth Serbia, Urdd Croes y De, Urdd Cenedlaethol er Anrhydedd, Gwobrau Dinasyddion Byd-eang, Order of the Paulownia Flowers, Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd yr Eliffant Gwyn, Urdd Awstralia, Urdd y Cymylau Ffafriol, Urdd yr Haul, Do'stlik (gorchymyn), Collar of the Order of Abdul Aziz Al Saud |
| Gwefan | https://www.s-abe.or.jp/ |
| llofnod | |
Gwleidydd o Japan oedd Shinzo Abe (Japaneg: 安倍 晋三, [abe ɕinzoː]; 21 Medi 1954 – 8 Gorffennaf 2022). Roedd yn Brif Weinidog Japan o 26 Medi 2006 i 26 Medi 2007 ac o 26 Rhagfyr 2012 i 16 Medi 2020.
Ganwyd Abe i deulu gwleidyddol; Nobusuke Kishi, Prif Weinidog Japan o 1957 i 1960, oedd ei daid ar ochr ei fam. Astudiodd gwyddor gwleidyddiaeth yn Japan; astudiodd hefyd yn yr Unol Daleithiau. Gweithiodd yn y sector breifat tan 1982 pan ddechreuodd ei swydd llywodraethol gyntaf. Daeth i mewn i wleidyddiaeth yn 1993 pan enillodd etholiad yn Nhalaith Yamaguchi. Gwasanaethodd o dan Brif Weinidogion Yoshiro Mori a Junichiro Koizumi, a daeth yn Brif Ysgrifennydd Cabinet Koizumi.
Fe'i hetholwyd yn brif weinidog gan sesiwn arbennig o'r Diet ar 26 Medi 2006. Ef oedd prif weinidog ieuengaf Japan ers yr Ail Ryfel Byd, a'r un cyntaf i'w eni ar ôl y rhyfel. Ymddiswyddodd yn sydyn ar 12 Medi 2007 yn dilyn misoedd o bwysau gwleidyddol.[1] Cafodd ei olynu gan Yasuo Fukuda, 91ain Prif Weinidog Japan.[2] Etholwyd Abe am yr ail dro ar 26 Rhagfyr 2012. Ymddiswyddodd o achos ei iechyd ar 16 Medi 2020.
Daeth Abe yn enwog am ei safbwynt cryf yn erbyn Gogledd Corea, wnaeth arwain at lywyddiaeth Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, y blaid lywodraethol, a swydd y Prif Weinidog. Disgwylwyd i Abe ddilyn polisïau economaidd ei ragflaenydd, a hefyd i wella'r cysylltiadau tyn gyda Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Ar 8 Gorffennaf 2022, saethwyd Abe ddwywaith wrth draddodi araith ymgyrchu ger Gorsaf Yamato-Saidaiji yn Nara.[3] Fe'i gludwyd i'r ysbyty lle bu farw yn ddiweddarach.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Japanese prime minister resigns. BBC (12 Medi 2007).
- ↑ (Saesneg) Fukuda installed as Japanese PM. BBC (25 Medi, 2007).
- ↑ "Man taken into custody after former Japanese PM Abe Shinzo collapses". NHK World (yn Saesneg). 8 Gorffennaf 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2022.
- ↑ Shinzo Abe, Japan’s former prime minister, dies after being shot (en) , theguardian.com, 8 Gorffennaf 2022.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Japaneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2007-12-15 yn y Peiriant Wayback
- (Japaneg) (Saesneg) Gwefan swyddogol Prif Weinidog Japan a'i Gabinet